Cofio yn gyfrwng trawsnewid
Gall cofio fod yn boenus, medd Lyn Dafis, ond gall peidio â chofio achosi mwy fyth o boen. Dyn ni’n cydnabod hynny fel unigolion a chymunedau oherwydd pan wrthodir cofio swyddogol, bydd pobl yn creu eu ffordd eu hunain o gofio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi ailymddangos mewn paent ar waliau ledled Cymru. Fe wnaethant ymddangos gyntaf yn y 1960au pan gafodd Cwm Tryweryn ei foddi a phan orfodwyd cymuned Gymraeg i symud o’i chynefin. Efallai bod eu hailymddangosiad yn awgrymu bod rhai’n gobeithio bydd cofio’r golled a fu yn grymuso cymunedau Cymraeg a gwledig heddiw yn eu brwydr dros oroesi.
Mewn rhyfeloedd mae tanseilio bwriadol ar allu pobl a chymunedau i gofio yn arf cyffredin. Byd papurau adnabod unigolion yn cael eu cymryd oddi arnyn nhw cyffredin. Bydd pobl yn ‘diflannu’. Caiff llyfrgelloedd eu llosgi a'u bomio. Bydd safleoedd hanesyddol a diwylliannol yn cael eu dinistrio. O gael eu trechu, caiff pobl a lleoedd eu hailenwi, ceisir dileu gwahaniaethau diwylliant ac iaith, a gwaharddir arferion crefyddol. Mae'r gallu i gofio yn un peth ym mywydau pobl sy'n rhoi rhyw fath o sicrwydd iddynt yng nghanol digwyddiadau ysgytwol o’r fath, ac mae'r trechwyr yn gwybod bod yn rhaid eu dileu os ydyn nhw am gadw rheolaeth.

Efallai mai un o’r enghreifftiau tristaf o’r ymgais i atal pobol rhag cofio sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yw beddau dienw cannoedd o blant brodorol mewn cyn-ysgolion preswyl yng Nghanada. Anfonwyd plant brodorol i’r ysgolion hyn er mwyn eu dysgu i anghofio eu hanes, eu diwylliant a’u hieithoedd. Wrth wneud hyn roedd y pethau oedd eu hangen arnyn nhw i gofio ac i ddeall pwy oedden nhw yn cael eu tynnu’n llwyr. A’r cywilydd i ni yw gwybod mai enwadau Cristnogol oedd yn rhedeg yr ysgolion hyn ar ran gwladwriaeth Canada.
Yr ymateb i'r darganfyddiadau arswydus hyn oedd creu cofebau digymell wrth osod esgidiau o flaen adeiladau'r llywodraeth. Cofio oedd y cam cyntaf wrth ddod i delerau â'r boen roedd cymunedau a phobl yn dal i'w dioddef. Roedd cofio yn weledol fel hyn hefyd yn fodd i wneud i'r rhai oedd yn cael budd o anghofio wynebu eu cyfrifoldeb.
Rhaid i gofio fod yn gyfrwng adferu – cam ar hyd y llwybr o wneud pethau’n iawn. Dylen ni gofio am y gorffennol fel ffordd o’i brynu’n ôl a dod yn gyfrwng adnewyddu ac iacháu, ac arwain at fywyd a phwrpas newydd.