Hafan Pobl Dewi Cofio Jemima - Buddugoliaeth Enwog

Cofio Jemima - Buddugoliaeth Enwog

Mae eleni’n nodi 225 mlynedd ers glaniad olaf lluoedd gelyniaethus ar dir mawr Prydain, ger Abergwaun. Yn naturiol, mae'r dref yn bwriadu dathlu

Fishguard Tapestry [carreg wastad]

Fis Chwefror 1797, roedd Prydain wedi bod yn rhyfela yn erbyn Ffrainc ers pedair mlynedd. Yn ystod y nos 22 Chwefror, glaniodd byddin o 1400 o filwyr Ffrengig ar Garreg wastad ger Llanwnda, tua phum milltir i'r gorllewin o'r dref. Nid aeth y glaniad yn dda.

Fishguard Tapestry [Jemima]

Cyfarfu'r Ffrancwyr â channoedd o aelodau o’r milisia lleol, a hwythau’n cael eu cefnogi yn eu tro gan sifiliaid yn cynnwys llawer o ferched wedi'u gwisgo mewn siolau ysgarlad a hetiau du uchel, yn debyg i filwyr. Rhoesant yr argraff fod nifer yr amddiffynwyr yn llawer mwy nag oedd mewn gwirionedd. Un o’r rhain oedd Jemima Nicholas a fu’n gyfrifol, yn ôl y chwedl, am ddal dwsin o filwyr Ffrainc a’u carcharu yn Eglwys y Santes Fair yn Abergwaun.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, ildiodd y Ffrancwyr yn ddiamod yn y Royal Oak, tafarn ar sgwâr y dref, ac mae’n elwa o’r stori byth ers hynny.

Nid yw eleni yn eithriad. Mae Ymddiriedolaeth Canolfan y Glaniad Olaf yn Abergwaun – elusen a sefydlwyd yn dilyn y deucanmlwyddiant ym 1997 – yn trefnu calendr amrywiol o ddigwyddiadau i goffau’r 225 mlwyddiant. Bydd rhywbeth o ddiddordeb i’r gymuned gyfan – gorymdaith filwrol fawreddog, drama fyw a cherddoriaeth yn Theatr Gwaun, parti Jemima i’r plant, Twmpath Dawns a chwisiau yn y Royal Oak.

Bydd teithiau tywys hefyd o amgylch y tapestri 100 troedfedd arobryn a grëwyd ar gyfer y deucanmlwyddiant gan y gymuned leol (https://lastinvasiontapestry.co.uk/). Bydd sgwrs ddarluniadol A Last Invasion gan Edward Perkins hefyd ar gael i’w gweld ar-lein a bydd yn cael ei chyflwyno yn Theatr Gwaun yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Fishguard Tapestry [Llanwnda church]

Mae Abergwaun bob amser wedi dathlu ei buddugoliaeth enwog. Cofnododd y baledwyr yn syth beth oedd yr ymateb i ddigwyddiadau 1797, o’r gweinidog oedrannus blin a welai’r goresgyniad fel cosb Duw ar braidd afreolus, i’r llenor dienw yn rhestru camweddau’r rheibus elynion cythreulig, ysglyfyddwyr mileinig, sef Ffrancod.

Mae baledwr arall yn dathlu’r gymuned leol a gefnogodd ‘filwyr onest Abergwaun’ fel hyn:
Gwŷr Trefdraeth ar ôl hynny a gadwai ymlaen yn glos

A llawer iawn o Hwlffwrdd rows ysgwydd dan y gro’s;

A’r morwyr glân o Hagan a’r coliers chwerwon du

A llawer mil o’r Cymry ddilynai’r arfog lu