Hafan Pobl Dewi Gwasanaeth Ordeinio yn ystod Pandemig Byd-eang

Gwasanaeth Ordeinio yn ystod Pandemig Byd-eang

Gyda llawenydd mawr yr ordeiniwyd Lorna Jones fis Mehefin. Mae hi’n ystyried ei phrofiad yma ac yn cychwyn ar y daith i’r dyfodol.

Lorna Jones

Roedd y clo mawr ddechrau’r flwyddyn yn brawf ar bawb. Nid lleiaf oherwydd ei bod yn gwbl groes i’n greddf i gau drysau ein heglwysi. Cymerodd beth amser i realiti hyn wawrio – unwaith i’r drysau gau byddai eu hail-agor yn dibynnu ar ffactorau byd-eang ymhell tu hwnt i’n rheolaeth ni.

Mae’r Eglwys wedi gweld llawer, ac fel dŷn ni’n arfer gwneud, dyma ni’n cymryd anadl mawr, yn ein cartrefi a thu ôl i orchudd wyneb wrth gwrs, a phenderfynu nad oedden ni’n mynd i adael i’r sefyllfa fod yn drech na ni.

Eto i gyd, yr oedd yn dipyn o syndod, yn erbyn y disgwyliadau a’r sefyllfa anodd, bod fy apwyntiad fel Curad Cynorthwyol a’m hordeinio fel diacon yn mynd i ddigwydd.

Daeth y newyddion ar amser pan oedd eraill yn derbyn newyddion drwg. Roedd pobl yn dal i fod yn sâl iawn, ein GIG yn gweithio’n galed i gadw rheolaeth ar Covid-19, yr ymdrech o fyw o ddydd i ddydd yn parhau a gwasanaethau ordeinio pobl eraill yn cael eu gohirio. Er gwaetha’r cyfan, roeddwn i ar ben fy nigon o wybod fy mod i’n mynd i gael fy ordeinio, ac yna byddai realiti beth fyddai hynny’n golygu go iawn yn dilyn. Ni allai unrhyw beth fod wedi fy mharatoi ar gyfer y teimladau o gyffro a gofid, dim unrhyw reid mewn ffair, dim plymio i ddyfnder y môr.

Gyda phob swydd dych chi’n dymuno gwneud yn dda. Dwi wedi gweithio ers imi fod yn 18 oed, ond mae hyn yn wahanol – nid swydd yw hon ond ffordd o fyw. Fel curad newydd, dwi eto i brofi’n llawn beth yw hi i fod yn unigolyn sy’n gweithio mewn ymateb i alwad Duw a thros yr Eglwys.

Lorna Jones Ordination 1

Lorna Jones Ordination 2

Cynhaliwyd y gwasanaeth ordeinio ddiwedd Mehefin yn Eglwys Dewi Sant, Abergwili, gyda dau ymgeisydd arall, yr Esgob a’i staff cynorthwyol a mi yn bresennol. Mae hanes o gynnal gwasanaethau ordeinio yn Eglwys Dewi Sant – mae’n eglwys ddymunol, gyda digon o le ar gyfer cynnal y pellter priodol, ac eto’n ddigon bach fel nad oedden ni’n teimlo ar goll yn y lle.

Roedd y digwyddiad yn un agos-atoch ac felly roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ac yn cael cyfle i gymdeithasu wrth chwifio ein dwylo a gwenu’n braf tu ôl i’n mygydau, ac wrth i’m bywyd fel curad ddechrau. Ffotograffau a fideos, bonllefau a chlapio dwylo? Fe gawson ni’r cyfan – a dwi’n credu eu bod nhw’n dal i gael eu cylchredeg mewn negeseuon ebost ac ar YouTube. Ond a fydd eu hangen?–roedd yn benwythnos na fydda i byth yn ei anghofio.