Hafan Pobl Dewi Clychau newydd i Nanhyfer

Clychau newydd i Nanhyfer

Mae Hywel Davies yn dathlu gorffen prosiect enfawr

Nevern Bells [Hywel Davies]

Y mae Nanhyfer yn eglwys hynafol gyda’i gwreiddiau yn dyddio nol i’r 6ed Ganrif. Yr oedd Sant Brynach yn sant Gwyddelig ac y mae hen chwedl bod y Brenin Arthur wedi ymladd ei frwydr olaf yno.

Y mae’r ffeithiau am Eglwys Sant Brynach rywfaint yn fwy diriaethol. Adnewyddwyd yr eglwys ar ddiwedd y 18fed Ganrif pan gosodwyd chwe o glychau i’w canu. Parhawyd gyda gwaith ychwanegol tua diwedd yr 19eg Ganrif, pan gynhwyswyd elfennau Fictorianaidd amlwg. Ni allwyd fod wedi canu’r clychau yn iawn oherwydd eu deinamig ac nid oedd y llawr lle’u cenid yn ddelfrydol.

Am sawl blwyddyn bu siarad am greu system o ganu hollol newydd ond, tra bod symiau weddol fach o arian wedi eu casglu, ni ddigwyddodd dim. Gwthiwyd y CPE i weithredu yn y pen draw wedi derbyn rhodd o arian yn 2017 a dechreuwyd ar y gwaith. Yr oedd yr amcangyfrif tua uchafswm o £250,000 ond daeth yn amlwg yn fuan iawn y byddai angen llawer mwy. Y broblem ddifrifol oedd strwythr y tŵr: yr oedd angen adnewyddu’r to bron yn gyfangwbl ac yr oedd problemau strwythurol ar bob lefel. Ystyriwyd y ffrâm clychau a’r clychau oedd yno yn berygl mawr a torrwyd y rhaffau i sicrhau na fyddent yn cael eu defnyddio.

Nevern Bells

Ond nawr, diolch i haelioni ystod eang o gymdeithasau a llawer o unigolion, fe adnewyddwyd y clochdy, a’r clychau hefyd. Daethpwyd â chloch arall o hen eglwys Gwdig, ger Abergwaun, dwy o Ganada ac y mae dwy gloch newydd – wedi’u castio yn yr Eidal- ar eu ffordd i Nanhyfer. Yn gyfangwbl, bydd tair ar ddeg, caniad o ddeg a tair cloch seinio. Nid oes gan unrhyw eglwys yng Nghymru, heblaw am eglwysi cadeiriol, gymaint â hynny.

Mae’n amlwg mai’r allwedd i gynnydd oedd ymrwymiad di-symud i’r prosiect. Yn ffodus, yr oedd gan Duncan Fitzwilliams a’r Parch John Powell lawer o brofiad o godi arian, a chyn belled ag y bo’r adeilad yn y cwestiwn, yr oedd gan Peter Lochery a minnau brofiad o reolaeth prosiect a pheirianneg yn gyffredinol.

Yr oeddem wrth ein bodd bod y prosiect wedi dal dychymyg cymaint o bobl. Heb fanylu ar unigolion na rhoddwyr corfforedig, Y Gronfa Loteri Treftadaeth, a gododd eu rhodd yn ddiweddar i £150,000 a Chronfa Colwinston, sy’n rheoli Stâd Agatha Christie, yw’r ddau roddwr mwyaf. Y mae’n hyfrydwch bod un o’r tair cloch ar ddeg wedi ei henwi er cof am Agatha Christie. Y mae mwy na 200 o unigolion, llawer ohonynt yn lleol, wedi cyfrannu at y prosiect.

Mynychodd yr Esgob Joanna wasanaeth o Fendithio ac Enwi’r Clychau ar Chwefror 17eg, ac maent wedi’u cysegru i ogoneddu Duw, i ganu Ei glod a galw Ei bobl i addoli.

Yr ydym yn bwriadu cynnal Gwasanaeth o Ddiolchgarwch pan fod y sefyllfa yn caniatau. Sut wnaethom ni hyn? Drwy roi ein dwylo ni yn nwylo Duw ac ef a wnaeth y gweddill.