Hafan Pobl Dewi Fy marf a fi

Fy marf a fi

Lyn Dafis

Yn y diweddaraf o’i gyfres Pererin Cadair Freichiau, y mae Lyn Dafis yn pendroni paham y mae ei farf yn achosi cymaint o ddiddordeb ynddi

Does neb yn aml iawn yn sôn am fy nhrwyn, fy nghlustiau na fy llygaid. Ond mae pawb yn credu bod hawl gyda nhw i gael barn am fy marf. A mwy na hynny hefyd, yr hawl i fynegi’r farn honno. Tybed pam? Efallai bod pobol â sylwadau am bethau eraill sydd ar fy wyneb ond yn gwybod na alla i wneud llawer o ddim amdanyn nhw, ond mae’n bosib imi gael gwared â fy marf yn llwyr ac maen nhw’n ddigon parod eu cyngor yn hynny o beth.

Rhywbeth a dyfodd dros y cyfnod clo cyntaf yw fy marf presennol. Roedd un debyg wedi bod gyda fi flynyddoedd yn ôl. Ond hyd nes imi ei hail-dyfu doeddwn i ddim sylweddoli cymaint roeddwn i’n mwynhau cael barf. Er doedd hi ddim yn hawdd bob amser.

Dwi’n cofio un tro mynd gyda fy marf blaenorol i ddarlleniad o farddoniaeth gan feirdd o Balestina a sylwi fod pawb yn edrych braidd yn amheus arna i. Dim ond ar y diwedd ces wybod gan ffrind fod rhai pobol yn ofni mod i’n eithafwr oedd wedi dod yno i dorri ar draws y noson. Neu’r tro yn canfasio (yng Nghymru) a hala ofn mawr ar ddyn wnaeth feddwl taw fi oedd ei offeiriad plwyf Uniongred oedd wedi dod yr holl ffordd o Wlad Groeg i gadw trefn arno a gofyn pam nad oedd e wedi bod i’r gwasanaethau yn ddiweddar!

Aaron

Dwi’n hoffi meddwl fy mod mewn rhyw fodd yn dilyn ffasiwn yr hynafiaid. Ond fyddwn i ddim yn maeddu cymharu fy marf â’r farf enwocaf erioed, sef un Aaron yr Archoffeiriad. Os yw’r eiconau ohoni sydd wedi’u hysgrifennu yn dod yn agos ati roedd yn rhyfeddol. Ac felly nid yw’n synod o gwbl fod barf Aaron yn destun un o gerddi hyfrytaf Llyfr y Salmau, sef Salm 133:

Mor dda ac mor ddymunol yw
i bobl fyw'n gytûn.
Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen,
yn llifo i lawr dros y farf,
dros farf Aaron,
yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.
Y mae fel gwlith Hermon
yn disgyn i lawr ar fryniau Seion.
Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith,
bywyd hyd byth.

Dwi’n siŵr na wnaeth neb erioed fentro sôn wrth Aaron am ei farf, ac os oedd ‘na rai oedd yn ddigon hy i wneud dwi’n falch nad oedd e wedi cymryd unrhyw sylw ohonyn nhw o gwbl.