Hafan Pobl Dewi Byw a Dysgu

Byw a Dysgu

Y mae Esgob Joanna yn myfyrio am gariad hirymarhous

Bishop CU5.JPG

Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn, mae’r cyfyngiadau yn cael eu codi ledled Cymru, ond byddai’n gwbl anghywir dweud bod bywyd yn dychwelyd i normal. Hyd yn oed i bobl na brofodd brofedigaeth na salwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd y profiad o fyw dan glo yn ystod y pandemig yn gadael ei ôl arnom am byth.

Bydd yn gwneud rhai ohonom yn awyddus i adennill a mwynhau ein rhyddid ond bydd eraill yn wyliadwrus rhag peryglu'r iechyd rydym wedi'i dod i weld sydd mor fregus. Mae’n bwysig derbyn nad oes un ffordd gywir o ymateb a dod i delerau gyda’r hyn rydyn ni i gyd wedi byw drwyddo. Rhaid inni fod yn oddefgar o’n gilydd.

Fel y mae Sant Paul yn ysgrifennu yn I Corinthiaid 13:4 - “Y mae cariad yn amyneddgar”. Rydyn ni’n byw ar adeg yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn ein cymdeithas pan mae’r angen am gariad goddefgar yn fwy nag erioed, a hynny mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac mewn cynifer o wahanol feysydd. Boed hynny am sut i ymateb yn briodol ar ôl y cyfnod clo, neu ba mor dderbyniol neu beidio yw partneriaethau a phriodas rhai o’r un rhyw yn yr Eglwys yng Nghymru, neu ai cyfiawnder cymdeithasol neu gweithredu elusennol sy’n cael y flaenoriaeth wrth fynd i’r afael â thlodi yn ein gwlad.

Nid yw ymarfer cariad amyneddgar yn mynnu ein bod yn gwadu'r gwirioneddau hynny sy'n annwyl i ni ac yn glynu atynt, ac nid yw chwaith yn mynnu ein bod yn mynd yn llwydaidd, gwan a di-liw. Ar y llaw arall, nid yw byw bywyd Cristnogol fel gwneud sỳms yn yr ysgol gynradd: dod o hyd i’r ateb cywir, dod o hyd i’r ffordd iawn o fyw, gwneud y dewisiadau cywir. Nid yw bod yn amyneddgar neu’n hirymarhous yn debyg i hynny o gwbl: yn hytrach mae’n ymwneud â dyfalbarhau mewn perthynas gyda’n brodyr a chwiorydd yng Nghrist hyd yn oed pan nad ydyn ni’n gwneud synnwyr i’n gilydd. Dim ond wedyn yr ydym mewn sefyllfa i fedru dysgu, a dyna, wedi'r cyfan, yw hanfod bywyd y disgybl.