Ymunwch, helpwch
Nicholas Griffin yn gwahodd darllenwyr i ymuno â Noddwyr Esgobaeth Tyddewi, elusen newydd a fydd yn cefnogi cenhadaeth a gweinidogaethau ein cymunedau eglwysig lleol
Ar ddiwedd mis Ionawr cyfarfu grŵp bach â’r Esgob i ffurfio elusen newydd, Noddwyr Esgobaeth Tyddewi, gyda’r nôd o godi arian a fyddai’n hyrwyddo strategaeth yr Esgob drwy helpu i gefnogi Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth i gynorthwyo eglwysi lleol.
Elusen sy’n seiliedig ar aelodau fydd hon ac mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr esgobaeth i’r rhai sy’n dymuno ymuno. Rhagwelir y byddwn yn cyfarfod mewn gwahanol rannau o’r esgobaeth yn flynyddol. Bydd y cyfarfod cyntaf ar Fehefin 12fed, Sul y Drindod, yng Ngheredigion mewn lleoliad i’w gadarnhau, a’r gobaith yw y cawn fwynhau picnic a ‘Songs of Praise’.
Rwyf wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd y Noddwyr ac os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â mi yn Swyddfa’r Esgob. Ffôn 01267.236597
Wrth i ni symud ymlaen a wynebu’r heriau sydd o’n blaenau gadewch inni obeithio y gallwn symud yn gadarnhaol a chefnogi bywyd a gweinidogaeth yr Eglwys.