Helo, Celine
Mae Mike Dare, Prif Efengylwr yng Nghanolfan Genhadol Impact 242, Hwlffordd, yn edrych ymlaen at groesawu aelod newydd i’r tîm.
Rydym mor hapus am yr holl waith da y mae Duw yn ei wneud ym Mhont Myrddin, a nawr mae gennym gynnydd cyffrous i rannu, wrth i ni groesawu Celine Cuddihy i dîm Impact 242 o Fai 1af.
![Celine Cuddihy [Impact 242]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Impact_242_Celine.width-500.jpg)
Bydd Celine yn gweithio fel Efengylwr Arloesol, ochr yn ochr â’n Efengylwr Arloesol presennol, Simon Morbey, a minnau. Mae’n apwyntiad cyffrous ym mhob ffordd: Mae Celine yn edrych ymlaen yn eiddgar at y swydd newydd a ninnau mor hapus ei bod yn ymuno â ni.
Impact 242 yw’r hunaniaeth a’r brandio a roddir i waith Esgobaeth Tyddewi drwy’n Canolfannau Cenhadaeth, fel rhan o strategaeth yr esgobaeth i greu disgyblion newydd ac eglwysi addoliad newydd. Seilir Impact 242 ar Actau 2:42 ‘Roedden nhw’n dal ati o ddifri - yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda’i gilydd’
Mae Celine yn symud atom o’i swydd bresennol fel un o dîm caplaniaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed, a graddiodd yn ddiweddar gyda gradd BA mewn Diwinyddiaeth ac Athroniaeth. Mae ganddi galon ar gyfer addoliad ac efengylu ymhlith oedolion ifanc a brwdfrydedd mawr i weld Teyrnas Dduw ar gynnydd pŵerus yma yn Sir Benfro..
Rydym yn edrych at adeiladu teulu Cristnogol ymhlith y dieglwysedig ym Mhont Myrddin a Hwlffordd ac at gyrraedd y gymuned mewn amryw o ffyrdd - gan adeiladu perthynas â’r gymuned leol, ieuenctid, oedolion ifanc a’r digartref.
Mae gennym ddatganiad gweledigaeth sef “Dwyn iachâd drwy adeiladu teulu sy’n clywed llais Duw gyda’n gilydd” ac edrych at gyrraedd y dieglwysedig drwy’n gwerthoedd: gonestrwydd, gostyngeiddrwydd, newyn (am air Duw), anrhydedd a hiwmor.
Gofynnwn am eich gweddïau dros Celine wrth iddi symud i’r ardal, a thros ei gweinidogaeth wrth iddi ymgymryd â’i rôl newydd.