Cynhaeaf y Cyfnod Clo
Gan Cynthia Davies
Am y rhai fu’n sychu dagrau’r galarus, yn gweini ar y claf, yn cynnig gobaith i’r di-obaith ac yn cynnal yr unig;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am y sawl a fu’n ein bwydo ac yn ein cadw’n ddiogel, yn ein cartrefi, yn y siopau ac ar y stryd;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am ddistawrwydd y cyfnod clo a’n helpodd ni i werthfawrogi prydferthwch dy greadigaeth Di;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymdogion a’n lapiodd ni yn eu cariad a’u gofal;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am allu’r gwyddonwyr a luniodd frechlyn i’n cadw ni rhag y pla, ac am y timau meddygol a fu’n ein brechu;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am wyrthiau technoleg a’n galluogodd i gadw cysylltiad â’n gilydd pan nad oedd modd i ni gyfarfod;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am wleidyddion a swyddogion a gafodd y dasg anodd o geisio ein hamddiffyn;
Diolch i Ti, O Dduw.
Am yr Eglwys a’i harweinwyr sydd wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno’r newyddion da;
Diolch i Ti, O Dduw;
Am i Ti roi dy Ysbryd Glân i’n cynnal a’n cadw ni yn ystod y cyfnod clo hwn;
Diolch i Ti, O Dduw.
Helpa ni i gofio yr hyn yr ydym wedi ei gynaeafu a’i ddefnyddio i helpu eraill a chreu gwell dyfodol. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen