Hafan Pobl Dewi Ffydd a'r Senedd

Ffydd a'r Senedd

gan Lyn Dafis

Yn ystod pandemig Covid-19 mae gwleidyddion wedi bod o dan y chwyddwydr yn gyson ac wedi derbyn eu siâr o feirniadaeth. Eto i gyd heb wleidyddion ni fyddai’n bosib i’r drefn ddemocrataidd weithredu. Felly roedd yn dda cael sgwrs gydag Elin Jones AS am ei phrofiadau hi yn ystod y cyfnod hwn ac am beth yw cyfraniad yr Eglwys a chymunedau ffydd i fywyd cyhoeddus ein gwlad.

Elin Jones MS [Presiding Officer Senedd]

Mae Elin Jones wedi bod yn aelod o’r corff dŷn ni’n ei adnabod bellach fel Senedd Cymru ers ei sefydlu yn 1999 a hynny fel aelod dros Geredigion. Mae hi bellach yn Llywydd y Senedd ac wedyn bod yn y swydd honno ers 2016. Y cwestiwn cyntaf oedd gen i iddi felly oedd beth oedd yn ei gwneud hi i fod eisiau parhau i wneud y gwaith o gofio taw dim ond pedwar o’r aelodau a etholwyd i’r Cynulliad cyntaf sydd yn dal i fod ar ôl yno.

“Wel”, meddai Elin, “mae fy oed o’m plaid i. Roeddwn i’n gymharol ifanc pan ges i fy ethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ac mae hynny wedi golygu ‘mod i wedi medru sefyll am y chweched gwaith fel gwnes i fis Mai diwethaf. Dwi’n mwynhau’r gwaith o gynrychioli pobol Ceredigion yn Senedd ac yn ei theimlo’n anrhydedd i fedru gwneud y gwaith hwnnw o ddydd i ddydd ar ran pobol y sir. Roeddwn i hefyd yn teimlo y dylen i fod yno am gyfnod pellach er mwyn cyfrannu at sicrhau seiliau cadarn y Senedd ar ôl ansicrwydd y trafodaethau cyfansoddiadol yn sgîl Brexit. Bryd hynny roedd rhai yn sôn yn ddigon croyw am ei diddymu, hyd yn oed. Er dwi’n falch fod y bygythiad hwnnw wedi lleihau’n fawr ers etholiadau Mai pan dim ond cynrychiolwyr pleidiau sy’n cefnogi dyfodol i’r Senedd a etholwyd.”

Yn ôl Elin Jones fe wnaeth y cyfnod Covid-19 gadarnhau beth oedd pwysigrwydd ei rôl fel cynrychiolydd ei hetholwyr. “Cawson ni i gyd fel aelodau etholedig ein hatgoffa taw cynrychioli a gwasanaethu pobol yw ein gwaith.” Esboniodd sut roedd cymaint o unigolion a busnesau yn chwilio am ryw fath o arweiniad a dealltwriaeth o beth oedd yn digwydd yn yr amgylchiadau. Roedd yn teimlo ei bod hi’n gwbl gywir iddyn nhw ddisgwyl cefnogaeth gan eu cynrychiolwyr yn hynny o beth. “Roedd pobol yn dod atoch chi ac yn gofyn pob math o gwestiynau am beth oedd yn mynd i ddigwydd. Fy lle i oedd ceisio rhoi arweiniad a chysur, sicrhau pobl bod ‘na lwybr yn arwain trwy’r ansicrwydd. Roeddwn i yno yn bendant i wasanaethu.”

Wrth gwrs mae’r ffordd mae pobol yn gofyn iddi am gymorth wedi newid. Roedd hi’n cofio sut oedd pethau pan gafodd ei hethol gyntaf yn 1999. “Bryd hynny byddai pobol yn cysylltu â fi trwy lythyr a disgwyl ateb mewn rhyw wythnos neu ddwy. Erbyn hyn dwi’n derbyn negeseuon electronig am 11.30pm ac mae pobol yn siomedig os nad ydw i wedi ateb erbyn bore trannoeth fan pellaf! Ond ar yr adeg hon roedd pobl yn poeni am eu bywydau a’u bywoliaeth ac roedd hi’n ddyletswydd arna i roi esbonio i bobol sut oedd cymorth yn mynd i fod ar gael iddyn nhw gynnal eu busnes i’r dyfodol. Mae bod yn atebol yn uniongyrchol hyn ‘na wedi newid pethau yn llwyr o’m safbwynt i, ac o safbwynt aelodau eraill y Senedd hefyd. Dwi’n gwerthfawrogi’r berthynas agos sy’n wedi datblygu rhyngof fi a’r sawl dwi’n eu cynrychioli yn sgîl hyn, a hefyd am y cyfleoedd sy’n dod i mi geisio helpu pobol i oresgyn y problemau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.”

Nodais fod yr oedd yn disgrifio rhan o’i gwaith fel Aelod o’r Senedd yn ymdebygu i’r hyn fyddwn i’n ei alw yn ofal bugeiliol. Dywedodd ei bod hi’n teimlo ei bod hi fel cynrychiolydd yn medru bod yn rhyw fath o bont rhwng yr awdurdodau – Llywodraeth Cymru a’i gweinidogion, y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir – a phobol ar lawr gwlad. “Dwi’n canmol y sefydliadau hynny i gyd am fod mor agored gyda ni fel gwleidyddion lleol ac am ein defnyddio ni yn ein tro i sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cyrraedd pobol. Oherwydd yn y cyfnod hwnnw fe ddysgais i taw gwybodaeth anghywir yw’r peth mwyaf dansherus. Ac mae gwybodaeth anghywir yn aml iawn yn codi o ddiffyg unrhyw wybodaeth, felly roedd medru rhannu gwybodaeth ddibynadwy gyda phobl trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn beth pwysig roeddwn i’n medru ei wneud ar yr adeg honno.”

Senedd Chamber

Cafodd Elin Jones gyfnod mewn Llywodraeth rhwng 2007 a 2011 fel Gweinidog dros Faterion Gwledig. Ac mae’n teimlo bod peth o’r profiad a enillodd bryd hynny wedi bod yn help iddi nawr. Un o’r pethau a wynebodd oedd rheoli digwyddiad o glwy traed a’r genau a’r gofid a’r colledion y profodd ffermwyr yn benodol bryd hynny. “O ganlyniad i hynny,” meddai, “roedd gen i ryw syniad o sut beth oedd delio gydag argyfwng a gwneud penderfyniadau oedd yn effeithio bywydau pobol yn uniongyrchol.” Teimlodd ei bod hi’n deall y pwysau oedd ar unigolion ac ar y rhai oedd yn ceisio rhedeg eu busnesau trwy gyfnod y pandemig ac felly roedd hynny’n sbardun iddi gynnig y cymorth yr oedd hi’n medru ei gynnig. Ond roedd hi’n ddiolchgar hefyd ei bod hi oherwydd ei phrofiad yn medru deall y pwysau ar y gweinidogion oedd yn gorfod delio gyda Covid-19. “Am fy mod i wedi cael y profiad fy hun roeddwn i’n gweld fod gen i, fel rhywun nad oedd yn y Llywodraeth, gyfrifoldeb i roi cefnogaeth feirniadol iddyn nhw yn eu gwaith. Dwi’n meddwl bod y gweinidogion hyn, a’r Prif Weinidog yn enwedig, wedi dangos dewrder wrth gymryd penderfyniadau nad oedd neb wedi gorfod eu gwneud o’r blaen. Hyd yn oed pan nad oeddwn i’n cytuno yn llwyr gyda beth oedd y Prif Weinidog yn ei wneud roeddwn i’n deall ei fod yn gweithredu o’r cymhelliad gorau, sef amddiffyn y cyhoedd.”

Wrth gwrs doedd y Prif Weinidog na’i gyd-weinidogion ddim heb eu beirniaid, yn arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe wnes i atgoffa Elin Jones nad oedd cyfryngau cymdeithasol o gwmpas pan oedd hi’n Weinidog ac yn cymryd penderfyniadau anodd yn ymwneud â Shambo’r bustach, ac â pholisi TB a difa moch daear. Tybed a oedd ganddi hi syniad pa mor anodd fyddai gwneud felly heddiw. Roedd ateb Elin Jones yn ddadlennol “Pan oeddwn i’n Weinidog fe wnes i gymryd penderfyniadau anodd a chael llythyron, galwadau ffôn, a negeseuon e-bost bygythiol. Roedd hynny’n ddigon anodd, ond byddai gwneud penderfyniad o’r fath nawr yn arwain at feirniadaeth gwbl ddigywilydd gan rai erbyn hyn. Dwi ddim yn creu y gallai’r gweinidogion fod wedi gwneud eu gwaith heb anwybyddu’r holl ymosodiadau personol oedd yn dod ar y cyfryngau cymdeithasol ar yr adeg hon.”

Holais i hi hefyd am yr ymosodiadau gwarthus mae menywod yn eu hwynebu yn gyson ar eu bod yn fenywod ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaeth hi ddweud ei bod o’i phrofiad personol yn gwybod am hynny. “Mae menywod yn wynebu beirniadaeth lot mwy personol am eu cyrff, eu pryd a’u gwedd, ac am unrhyw beth mewn gwirionedd er mwyn ceisio eu tanseilio. A’r hyn sy’n fy mhoeni i’n fawr am hyn yw bydd yn arwain at lai o fenywod yn arbennig yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Ac mae angen eu lleisiau nhw i fod yno yn siarad yn gryf dros beth sy’n bwysig iddyn nhw.”

Wrth i Elin Jones gymryd swydd gyhoeddus iawn fel Llywydd y Senedd yn 2016 roedd hi’n falch o’r cyfle a ddaeth iddi. Esboniodd fod pawb wedi disgwyl i’r cyn-aelod Ceidwadol David Melding sefyll i fod yn Llywydd bryd hynny, ond ni wnaeth. Ac felly fe welodd Elin Jones gyfle am newid iddi ei hun: “Dwi’n siŵr y dylen i fod â rheswm ‘gwell’ na hynny ond roeddwn i yn chwilio am brofiad a chyfle newydd i wasanaethu. Byddai swydd y Llywydd yn golygu byddai cyfle i wneud rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi sef sicrhau twf, datblygiad a pharhad ein sefydliad democrataidd cenedlaethol ac roeddwn i’n awyddus i weld rhywun yn y swydd fyddai’n ymrwymo i wneud hynny.

“Dwi wedi gweld y corff yn esblygu dros y blynyddoedd. Fel Llywydd dwi wedi gweithio i newid ei enw i Senedd Cymru i gyd-fynd gyda’r pwerau deddfwriaethol a gafodd y dilyn refferendwm 2011. Hoffwn weld y Senedd yn cael mwy o bwerau mewn meysydd fel cyfiawnder a darlledu. Ond mae ‘na broblem ymarferol ar hyn o bryd, dyw Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd ddim yn gefnogol i hynny. Felly rhaid edrych a all y Senedd weithredu gyda’r grymoedd sydd gyda hi. Dwi’n gweld diffyg capasiti yn wendid. Hynny yw, does dim digon o aelodau i wneud y gwaith sydd angen o lywodraethu a sgriwtineddio. Mae angen mwy ohonon ni i wneud y gwaith hynny’n well.

“Felly ceisio adeiladu consensws ar hyn ar draws y pleidiau fydd rhan o’m gwaith i dros y cyfnod hwn. Dwi’n gwybod nad yw siarad am ‘ragor o wleidyddion’ byth yn boblogaidd ond yn dilyn profiad cyfnod Covid-19 dwi’n credu bod mwy a mwy o bobol wedi dod i weld pa mor bwysig yw atebolrwydd y Llywodraeth ac o gael gwleidyddion sy’n medru gwneud y gwaith o graffu ar eu penderfyniadau sy’n effeithio bywydau pobl Cymru o ddydd i ddydd. A dwi’n credu fod pobol Cymru yn gweld pwysigrwydd hyn wrth iddyn nhw wrthod yn bendant y lleisiau hynny oedd yn galw am ddiddymu’r Senedd yn etholiadau Mai 2021 a dangos eu bod yn gysurus gyda’r ffaith fod y penderfyniadau ar adeg fel y pandemig wedi cael eu cymryd yng Nghymru.”

Fe wnes i atgoffa Elin ei bod yn Gardi i’r carn a dylai bod meddwl o hala rhagor o arian ar wleidyddion fod yn rhywbeth oedd yn anodd iddi. Ond roedd ganddi ateb. “Dwi wedi bod yn gwneud fy sỳms,’ meddai, “ ac mae’n glir bod talu am bedwar cynrychiolydd oedd yn Senedd Ewrop yn costio cymaint ag 20 aelod yn Senedd ac felly mae ‘na arian wedi’i arbed i dalu am ddatblygiad o’r fath. Mae eu hangen i wneud y gwaith. Mae aelodau yn y Senedd ar ddau neu dri phwyllgor neu mewn Llywodraeth. Yn San Steffan mae ‘na 100 o aelodau sydd ddim ar bwyllgor o unrhyw fath nac mewn llywodraeth chwaith. Hoffwn i wybod beth maen nhw’n ei wneud gyda’u hamser ac am eu harian!”

Cyn i’r cyfweliad dynnu at ei derfyn cefais gyfle i holi Elin am sut roedd hi fel Llywydd y Senedd yn gweld y lle'r Eglwys a chymunedau ffydd eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru. Fe atebodd yn gwbl eglur fod lle i bawb yn nemocratiaeth ein gwlad a bod hynny’n cynnwys y lleisiau hynny sy’n cynrychioli cymunedau ffydd. Mynegodd ei gobaith y bydden nhw’n medru ail-afael mewn pethau yn dilyn y pandemig: “Dwi’n ymwybodol iawn o sut mae’r cymunedau hynny wedi wynebu pob math o heriau yn ystod y deunaw mis diwethaf. Maen nhw wedi methu cwrdd ynghyd, wedi methu addoli gyda’i gilydd ond maen nhw hefyd wedi bod yn rhoi arweiniad i’w haelodau ar sut i ymdopi yn y cyfnod hwn. Mae’r arweiniad hwnnw wedi bod yn bwysig iawn.”

Nododd bod y partneriaethau hynny sy’n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a chymunedau ffydd yn bwysig ac yn gwbl ymarferol pan mae’n dod i ddeddfu mewn rhai pynciau a meysydd yn benodol. “Wrth drafod y mesur ar y cwricwlwm newydd yn ddiweddar roedd ‘na drafodaeth fywiog gyda chymunedau ffydd”, meddai, “ac wrth gwrs ar faterion moesol mae’n bwysig clywed lleisiau o’r fath. Gwelais i hynny’n arbennig o werthfawr ac yn ddefnyddiol ar newid y rheolau ar drawsblannu organau.”

“Mae perthynas o’r fath rhwng gwleidyddion a chymunedau ffydd yn rhoi i gymdeithas y cadernid mae ei hangen. Mae’r plethiad hwnnw’n bwysig yn ein cymdeithas. Dwi’n gobeithio y bydd ein heglwysi, capeli ac addoldai eraill yn medru ailgydio yn eu haddoli mewn adeiladu wrth i’r rheoliadau Covid-19 gael eu llacio. A hefyd y bydd hynny’n rhoi cyfle o’r newydd i fi fedru croesawu aelodau o’r cymunedau ffydd i’r Senedd unwaith eto, fel i’r Brecwast Gweddi blynyddol a digwyddiadau eraill mae aelodau yn eu trefnu.”

Does dim gweddi na myfyrdod ar ddechrau cyfarfodydd o Senedd Cymru yn wahanol i Dŷ’r Cyffredin a Senedd yr Alban. Doedd Elin Jones ddim yn cofio beth yn union oedd y dadleuon pan wnaethpwyd y penderfyniad yn wreiddiol. Ond roedd hi’n ymwybodol ar y pryd fod nifer o aelodau’r corff newydd am sefydlu trefn yng Nghaerdydd oedd yn gwbl wahanol i’r hyn oedd yn bodoli yn San Steffan. Er mwyn sicrhau bod y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn agored ac yn cynnwys pawb o bob a dim ffydd penderfynwyd peidio â chael yr elfen honno yn rhan o fywyd y corff. Erbyn hyn mae’r patrwm wedi’i osod a dyw hi ddim yn gweld rheswm dros ei newid.

Wrth gloi’r cyfweliad roedd cyfle i sôn ychydig am gefndir Elin Jones a’i chysylltiad hi ag Eglwys Llanwnnen. “Cefais fy magu yn yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys Llanwnnen. Roeddwn i’n addoli’n gyson yno trwy fy mhlentyndod a’m hieuenctid. Roedd teulu fy nhad wedi bod yn addoli yno hefyd ers cenedlaethau. Roedd fy mam, ar y llaw arall, yn dod o’r traddodiad Annibynnol ond daeth hi’n Eglwyswraig wedi priodi ‘nhad. Mae llawer o’r hyn a gefais i yn Eglwys Llanwnnen yn bwysig iawn i mi. Dwi’n ddiolchgar fy mod wedi dysgu am y ffydd Gristnogol am y Beibl ac am ein hemynau yn arbennig. I mi hefyd mae’r ymdeimlad o berthyn a’r angen i ofalu am gymydog yn bwysig iawn ac roedd hynny’n deimlad cryf yn yr eglwys. Er nad ydw i’n mynychu bellach dwi’n dal i deimlo fy mod yn perthyn i’r gymuned honno ac mae fy ngwreiddiau yn dal i fod yn y traddodiad hwnnw.”