Hafan Pobl Dewi Pasg

Pasg

O dywyllwch i oleuni

Y mae Canon Ann Howells yn ystyried ein taith drwy fywyd gyda Iesu wrth i ni nesau at lawenydd y Pasg

Wrth ysgrifennu hyn yn ystod dyddiau oer a thywyll mis Ionawr, pan mae’r coed yn foel, mae goleuni a chynhesrwydd y gwanwyn yn teimlo’n bell i ffwrdd. O bersbectif y cyfnod clo hwn, gyda’r coronafeirws yn dal i ledaenu, ysgolion ynghau a gwasanaethau wedi eu canslo mewn llawer o eglwysi, mae’n anodd dychmygu sut fydd pethau erbyn y Pasg. A fydd y rhaglen frechu wedi gostegu’r cyfraddau heintiau? A fydd pobl wedi lleihau’r risg trwy aros adref cymaint â phosibl? A fyddwn yn ôl yn ein heglwysi neu a fyddwn yn cymryd rhan mewn gwasanaethau’r Wythnos Fawr a’r Pasg yn ein cartrefi fel y gwnaethon ni y llynedd? Efallai erbyn i chi ddarllen hwn, bydd gwell syniad gyda chi na fi.

Mae yna amseroedd yn ein bywydau pan rydym ni eisiau gwasgu’r botwm ‘symud ymlaen’. Mae aros am ganlyniadau – profion iechyd, arholiadau neu ymgeisiadau am swyddi – yn anodd. Mae pandemig y coronafeirws wedi ein hatgoffa ni ein bod ni’n byw mewn byd sy’n newid trwy’r amser, gyda lefelau uchel o ansicrwydd. Efallai y dymunwn ddarganfod ffordd allan o’r ddrysfa, y bwlch yn y clawdd i ddianc trwyddo i fyd sy’n well – ond dydy pethau ddim mor rhwydd â hynny.

Yn ystod y Garawys rydym ni’n dilyn Iesu ar ei daith i’r Groes. Rydym yn cael ein nodi gydag arwydd y Groes ar Ddydd Mercher y Lludw fel atgoffâd o’n marwoldeb a chost ein maddeuant. Mae darlleniadau’r Sul yn ein hatgoffa ni o’r camau ar daith Iesu a beth maent yn eu golygu i’n bywydau: y temtasiynau rydym yn eu hwynebu, yr angen i godi ein croes, y gwahoddiad i adael i oleuni Duw lewyrchu trwy ein bywydau, a’r her i beidio â charu ein bywyd yn y byd hwn gymaint nes ein bod ni’n colli ein gafael ar fywyd tragwyddol.

Muscari Neglectum [CC BY-SW 2.5]

Nid oedd unrhyw ffyrdd byr i Iesu eu cymryd ar ei daith i’r Groes. Pob pentref yr aeth trwyddi, pob sgwrs a gafodd a phob gwrthwynebiad a brofodd daeth â fe yn nes at ddiwedd ei daith. Disgrifiodd Esgob Saunders Davies y daith hon yn nheitl ei lyfr ar yr Efengyl yn ôl Luc fel: ‘Y Daith Anorfod’. Doedd dim troi yn ôl.

Mae yna ddolen anatod rhwng y croeshoeliad a’r atgyfodiad. Nid oes modd i ni ddathlu llawenydd y Pasg a rhannu ym mywyd tragwyddol gydag Iesu – yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw – heb deithio gydag Iesu i’r Groes. Rydym ni wedi bod ar y daith hon ers ein bedydd. Fel yr ysgrifennodd Sant Paul yn ei Lythyr at y Rhufeiniaid: ‘Trwy’r bedydd hwn i farwolaeth, fe’n claddwyd gydag ef, fel megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd.’ (Rhufeiniaid 6.4 BCN).

Un o’r anrhegion rhoddwyd i’m gŵr Euryl a minnau ar adeg y Nadolig oedd pot o fylbiau Musgari (hyacinth grawnwin) i’w tyfu adref. Plannais nhw ar wŷl yr Ystwyll yn y gobaith y byddant yn blodeuo erbyn y Pasg. Y cyfarwyddyd oedd i’w cadw mewn lle oer a thywyll am 10 wythnos cyn dod â nhw allan i’r goleuni a’r gwres, ac os nad oedd hyn yn digwydd efallai na fyddai’r bylbiau yn blodeuo. Roedd hyn wedi fy atgoffa i o’r ffaith bod yr oerni a’r tywyllwch yn gallu bod yn lefydd o dyfiant, ac weithiau mae angen y llefydd hyn yn ein bywydau er mwyn i ni ffynnu, er gwaethaf ein diffyg amynedd wrth aros i’r amseroedd hyn fynd heibio. Mae’r Garawys yn amser i ni dyfu’n ysbrydol, a dim ond wedyn gallwn ni ddod allan o’r bedd oer, tywyll gyda Christ i gynhesrwydd a goleuni bore’r Pasg a chyhoeddi: ‘Alelwia! Atgyfododd Crist!’