Hafan Pobl Dewi Llawenydd bore’r Pasg

Llawenydd bore’r Pasg

Y mae Parch Gareth Reid yn ein hannog i gyd i ddilyn esiampl Mair Magdalen drwy wneud amser yn ein bywydau prysur i’r Arglwydd atgyfodedig

‘Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd. (Ioan 20:1)

Mae yna nifer o resymau bosibl paham y teithiodd Mair mor gynnar ar y diwrnod yna. Un rheswm oedd ei bod yn dawel, a roedd mwy o siawns o gael llonydd, a thawelwch. Mi oedd gweld llai o bobl hefyd yn bositif am fod yna lai o siawns o wynebu gwrthwynebiad am ymweld â bedd troseddwr. Hefyd, dyma oedd siawns cyntaf Mair am y daith yma. Pan bu farw Crist ar y dydd Gwener mi oedd y Saboth ar fin dechrau, a ni ddaeth diwedd y dydd sanctaidd nes machlud haul nos Sadwrn. Nid oedd hawl gan yr Iddewon i wneud unrhywbeth fel hyn yn ystod dydd y Saboth, a gyda’r holl emosiwn ers marwolaeth Iesu, efallai nad oedd unrhywun eisiau mynd beth bynnag. Waeth beth oedd y rheswm, rydym yn gweld Mair Magdalen yn teithio tuag at bedd ei hathro, ei ffrind, yr un yr oedd hi, a nifer eraill, yn gobeithio oedd y Meseia. Nid oedd hi’n mynd am unrhyw reswm arall ond i aros, i feddwl, i gofio am Iesu. Mae'n debyg bod Mair yn awyddus iawn i gyflawni yr angen yn ei hysbryd i fod gyda'i Harglwydd unwaith eto. Wrth gwrs, nid oedd Mair yn rhagweld pa mor wir byddai’r ffaith honno.

Y cwestiwn sy’n codi o brofiad ac esiampl Mair Magdalen yw - pa mor debyg i Mair ydyn ni yn ein ffydd pan yn dathlu'r Pasg? Oes dyhead gennym yn ddwfn yn ein bod am y dathliad yna? Ydyn ni yn aros i ddathlu atgyfodiad Crist (ar ddydd y Pasg a thrwy ein bywyd)? Os ydym yn onest, a ydym yn edrych ymlaen at ddiwedd yr Ŵyl? Wrth gwrs mae’r Pasg yn ddiwrnod, ac yn adeg, bwysig i ni gyd, ond mi fydd rhan fwyaf ohonom hefyd yn gweld y tymor hwnnw yn dymor prysur iawn. Wedi gweinidogaethu dros nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau dros y Garawys, yr Wythnos Fawr a'r Pasg, a ydyn yn aros am yr hoe? Ydyn ni ond yn edrych tuag at ddiwedd yr Ŵyl, neu a ydyn yn medru chwilio am adegau o dawelwch yn y prysurdeb?

Wrth edrych at Mair gwelwn berson ffyddlon a deallus yn cyflawni ei heisiau i fod gyda Iesu trwy fod yn llonydd, yn dawel ac yn aros. Nid oedd Mair yn disgwyl gweld yr Iesu yn gorfforol eto, ond yr hyn wnaeth hi dderbyn – y fendith yna cyn unrhywun arall.

Os wnawn ni wneud lle i'r Iesu ym mhrysurdeb y Pasg (hyd yn oed os mai prysurdeb 'da' yw e - yr eglwys, addoliad ayyb) efallai y gwnawn ninnau dderbyn profiad o Iesu hollol newydd. A wnawn ni wneud yn siŵr nad yw prysurdeb yn dod rhyngom ni a’r Iesu? Trwy wneud lle iddo, fel y gwnaeth Mair Magdalen, fe fydd ein Harglwydd atgyfodedig yn ein synnu unwaith eto.