We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Hafan Pobl Dewi Hanesion plentyndod ficerdy

Hanesion plentyndod ficerdy

Eluned Rees [Jan 2022]

Y mae Eluned Rees yn dwyn i gof ymwelwyr, disgwyliedig ac annisgwyl, a chroesawu ffôn am y tro cyntaf

Roedd pob math o bobl yn galw yn y ficerdy. Un tro daeth hyd yn oed Mormoniaid amser cinio dydd Sul! Ond fyddai neb yn cael eu troi i ffwrdd. Cofiaf un trempyn a alwai’n flynyddol, fel y byddai’r crwydriaid bryd hynny, yn dilyn yr un daith rownd y wlad.. Rhoddai fy mam hen ddillad ar ôl fy nhad a choginio ŵy a sglodion iddo.

Daeth un teulu tlawd iawn ddwy neu dair gwaith, yn byw mewn carafan ar y comin gerllaw, ac aeth rhai o’n ‘cast offs’ ni gyda nhw. Roedden nhw siŵr o fod yn meddwl bod teulu’r ficerdy yn bobl gyfoethog yn byw mewn tŷ mawr, ond wrth gwrs, yn hollol anghywir. Doedd gwragedd offeiriaid bryd hynny ddim yn gweithio, ac yn guradon di-dâl i’w gwŷr.

Cyrhaeddodd yr Esgob yn ddi-rybudd unwaith a gweiddi ar y dyn anniben a oedd yn gweithio yn yr ardd mewn hen ddillad a gofyn ble oedd y ficer. Roedd hwnnw yn ei ddillad gwaith yn garddio, a llwyddodd i sleifio i mewn a newid ei ddillad tra oedd mam yn sgwrsio â’r ymwelydd yn y ‘drawing room’.

telephone-1950s

Roedd hyn cyn dyddiau ffôn yn y tŷ. Byddai hyd yn oed Prifathro’r ysgol fach, fel ninnau, yn gorfod mynd lawr i’r ciosg ar y sgwâr i ffonio . Cynnwrf cael ein ffôn cyntaf – Pontyberem 372. Ond yn yr ‘hall’ oer oedd y ffôn am flynyddoedd ac felly pob sgwrs yn fyr.

Deuai parau ifanc a oedd am briodi yn yr eglwys i drefnu’r achlysur. Roedd priodas yn rhywbeth i’r pentref cyfan ei ddathlu, tyrfa‘n sefyll tu allan i’r eglwys, a phlant a ieuenctid yn dal rhaff ar draws y ffordd i atal y pâr rhag teithio nes cael arian! Tybed pa gyngor byddent yn ei dderbyn gan fy nhad yn y stydi? Os nad oeddem wedi ei gweld, wedi’r briodas byddem yn holi beth oedd y briodasferch yn wisgo, a’r un ateb bob tro oddi wrth yr un oedd yn sefyll o’i blaen ‘Rhywbeth golau’!

Weithiau daeth tramorwr i chwilio cofrestri’r eglwys am hanes eu cyn-deidiau. Pobl ecsotig yn ein tyb ni, blant. Rwyn cochi nawr wrth gofio ymarfer fy Ffrangeg Dosbarth 1 gyda gwraig o Ganada nad oedd yn siarad Saesneg tra edrychai eu gŵr drwy’r llyfrau mawr trwm.

Un o’r uchafbwyntiau bob bore nadolig oedd sŵn Band Arian Crwbin yn chwarae carolau wrth y drws.. Nes ymlaen roeddem, fel Clwb Ieuenctid, yn canu o gwmpas y tai a ffermydd agosaf a chasglu arian, ond sŵn y Band sy’n aros yn y cof.