Rhodd Cristnogaeth i’r mudiad amgylcheddol
Gall pob un ohonom chwarae ein rhan arbennig ein hunain wrth ddod ag iachâd i’r ddaear, medd Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal y Greadigaeth a Chynaliadwyedd yr Esgobaeth
Fel y gŵyr rhai ohonoch, cyn hyfforddi ar gyfer fy ordeinio, bûm yn gweithio yn yGanolfan Technoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth, yn gofalu am eu gweithgareddau trin dŵr a chadwraeth.

Roedd yn fraint cael gweithio yno gyda chymaint o bobl fedrus ac ymroddedig oedd yn dod yno yn eu tro ac yn cyfrannu. Byddai eu hymroddiad anhunanol wrth ofalu am y ddaear yn gwneud argraff arnaf yn gyson, gan fod yn barod i aberthu cryn amser ac egni, a hynny gydag agwedd o hunanreolaeth ac am fyw bywyd syml. Roeddwn i'n aml yn teimlo nad oeddwn yn dod yn agos at eu hymroddiad hwy. Dwi'n siŵr bod llawer o glerigion yn teimlo'r un fath, gan ennyn parch heb reswm heblaw am eu statws cyhoeddus, ond yn ymwybodol iawn o'u diffygion eu hunain o'u cymharu â'r rhai sy'n gweithio'n ddirgel, anhunanol ac yn ddiflino yn y plwyf.
Ond roedd dimensiwn arall nad oedd mor gyfoethog i fywydau rhai o’r ymgyrchwyr amgylchedd y deuthum ar eu traws dros y blynyddoedd. Nid oedd hyn oherwydd unrhyw fethiant personol ar eu rhan, ond o ran eu hathroniaeth sylfaenol. Nid oes gan yr ymgyrch yn ymwneud â’r amgylchedd fawr ddim cadarnhaol i'w ddweud am y ddynoliaeth. Yn gyffredinol, gwelir bodau dynol fel y broblem (sy’n ddigon gwir) a byddai'r ddaear mewn gwell sefyllfa hebddyn nhw. Mae hyn yn arwain at deimladau o hunan-amheuaeth neu anobaith hyd yn oed. Os yw popeth mae unigolyn yn ei wneud ond yn ychwanegu at danseilio cydbwysedd bregus y ddaear a chreu allyriannau carbon deuocsid peryglus, nid oes fawr o reswm na gwerth mewn bod yn fyw.
Fodd bynnag, mae gan Gristnogaeth rodd i'w chynnig i'r mudiad amgylcheddol sef cyhoeddi'n uchel ac yn glir bod angen pawb os ydyn ni i ddod ag iechyd i’r ddaear. Mae’n wir ein bod yn achosi difrod enfawr, ond nid adferiad a chyflawniad ecolegol yn bosib hebddom ni. Mae pob un ohonom, fel plant Duw, yn unigryw fel mae pob plentyn. Sy'n golygu bod ‘na bethau mai dim ond chi sy’n medru eu gwneud dros Dduw, a neb arall o gwbl.. Mae darlun S Paul o gorff Crist, gyda'i aelodau gwahanol, yn gwneud hyn yn glir iawn. Mae'r byd yn llai nag y gallai fod cyhyd â bod bodau dynol yn llai nag y gallan nhw fod (ac mae’n bosib mai nhw yw presenoldeb Crist mewn gwirionedd).
Mae’r mudiad amgylcheddol wedi galw’r Eglwys i gyfrif, gan ei hatgoffa o alwad Duw i ofalu am y greadigaeth, y mae arnom ddyled o ddiolchgarwch amdano. Yn gyfnewid am hynny, gallwn ni gynnig y cywiriad a'r sicrwydd hanfodol hwn iddynt: peidiwch â digalonni, mae eich angen a dych chi’n cael eich caru am bwy ydych chi yn ogystal â'r hyn rydych chi'n ei wneud, neu ddim yn ei wneud. Gadewch inni felly dorchi ein llewys a chydweithio i wella ein cartref cyffredin.