Hafan Pobl Dewi Cyfri carbon yn enw Crist

Cyfri carbon yn enw Crist

Mae Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal y Greadigaeth a Chynaliadwyedd yr esgobaeth, yn awgrymu ffyrdd y gallwn ni i gyd gyfrannu tuag at ofalu am y greadigaeth.

Yn rhifyn diwethaf Pobl Dewi fe edrychon ni ar sut mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd wrth gynllunio i leihau ei hallyriannau nwyon tai gwydr hyd at ddim dros y blynyddoedd nesaf. Wrth gwrs pobol yw’r eglwys, chi a fi, cyn unrhyw sôn am yr adeiladau na deddf ganon, felly beth am edrych ar y newidiadau y gallwn ni eu gwneud yn ein bywydau o ddydd i ddydd i ofalu’n well am y greadigaeth, gan ganolbwyntio ar ynni, trafnidiaeth a bwyd.

Yn gyntaf, ynni: newidiwch eich cyflenwr trydan am un sy’n defnyddio 100% ynni adnewyddol. Mae’n syml a dyw e ddim o reidrwydd yn mynd i gostio mwy i chi. Yn yr eglwys dyn ni’n defnyddio Good Energy, gartref dwi’n defnyddio Bulb, ac mae ‘na eraill fel Ocotbus neu Ecotricity. Mae hyd yn oed cyflenwyr arferol yn cynnig rhestrau prisiau gwyrdd. Mae rhai yn cyflenwi nwy hefyd. Os yw’r gost yn cynyddu (ac mewn gwirionedd yn ein cartref fe aeth y costau lawr) gellir cydbwyso hyn gyda defnydd ynni mwy effeithiol trwy, er enghraifft, droi’r gwres canolog lawr un radd, diffodd teclynnau wrth y wal a pheidio â’u gadael ar stand-by, trwy ferwi ond y dŵr sydd ei angen mewn tegell a newid i fylbiau golau LED.

Cycling

Yn ail, trafnidiaeth, sy’n cyfrif am 34% o allyriannau ym Mhrydain. Bydd y rhan fwyaf yn dod o deithiau mewn ceir, a’r ffordd orau i’w cwtogi yw gyrru llai. Ceisiwch gerdded (neu seiclo) yn achlysurol, sydd yn well ichi yn feddyliol ac yn gorfforol. Neu beth am rannu lifft gydag eraill? Beth am brynu e-feic a thynnu’r gwaith caled mas o’r ymdrech i ddringo bryniau Cymru? Dyma dechnoleg newydd wych fydd yn bendant yn gwneud ichi deimlo’n well amdanoch chi eich hunain ac am y byd. A phan fyddwch chi’n gyrru ewch yn fwy araf. Mae gyrru ar gyflymder o 50mya yn defnyddio 25-30% yn llai o danwydd nag yw gyrru ar 70mya ac mae’n fwy diogel i bawb.

Yn olaf, bwyd. Un peth fyddai’n dda nid yn unig i iechyd ein planed ond hefyd ein hiechyd ni fyddai bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth. Mae cynhyrchu'r bwydydd hyn fel arfer yn cynhyrchu llawer rhagor o allyriannau carbon na bwydydd o blanhigion. Ond wedi dweud hynny, mae gwartheg a defaid sy’n pori yng Nghymru yn llawer mwy cynaliadwy na da byw sy’n cael eu magu ar rawn sydd wedi’i fewnforio, fel sy’n digwydd mewn llawer gwlad trwy’r byd. Felly mae’n gwbl bosib cwtogi ar allyriannau carbon wrth fwyta llai o gig a chynnyrch llaeth a dal i gefnogi ein cymunedau lleol os, wrth brynu, ein bod yn gwneud hynny oddi wrth gigydd lleol neu gynhyrchwyr llaeth Cymreig. Dewis da i bawb.