Hafan Pobl Dewi Hydref yn y coed

Hydref yn y coed

Y mae Martine Johnson yn mwynhau mynd am dro ac yn cael ei hatgoffa o gerdd hynafol

Mushroom

Y mae cerdded drwy goedwig hynafol gyda’r haul yn codi a chôr yr adar yn canu yn gywir fel y mae fy nhad yn ei ddisgrifio: fel cerdded drwy eglwys gadeiriol natur. Y mae’r tarth wen yn meddalu amlinelliad y coed, a’r haul wrth godi yn creu rhywbeth fel ffenestri lliw. Yr wyf yn adnabod y goedwig hon yn dda, ac wedi cerdded ar hyd y llwybr hwn am sawl mlynedd, rwy’n adnabod ei choed ffawydd gyda’u coron yn ymestyn, arglwyddiaeth y deri enfawr. Rwyn adnabod yr anifeiliaid cuddiedig sy’n trigo yma, yn dangos eu presenoldeb yn y nos; llwynogod, moch daear, llygod, ystlumod, tylluanod, a’r ysgyfarnogod. Rwyn gwybod ble mae’r lili wen fach a’r clychau glas yn tyfu yn y gwanwyn a ble mae’r afon, wedi chwyddo gan gawodydd y gaeaf, wedi cerfio sianel newydd yn ei gwely graean yn ystod misoedd gwlyb y gaeaf.

A nawr, wrth i ni ddechrau hydref, rwyn gwybod yr hyfrydwch a ddaw yn y tymor hwn. Mae’r coedtir yn dechrau newid eto, o ddail gwyrdd misoedd yr haf, nawr wedi troi’n euraidd a thanllyd. Gyda’r tymor hwn daw’r mwynhad o chwilio am goncyrs, cicio’r dail sych ar lawr, rhostio castanau. Hefyd bydd y cloddiau’n llawn o fwyar duon ac eirin sur bach, yn gwneud teithiau teuluol yn ffrwythlon.

Bydd gwenoliaid y bondo yn dechrau crynhoi mewn grwpiau teuluol, a byddwn yn gweld y mwyalch yn setlo ar y llinellau pŵer yn y pellter. Mae’r ddau weithgaredd hyn yn digwydd cyn y daith hir a wnânt cyn bo hir i wledydd twymach.

Gellir gweld boda bob dydd, yn arnofio’n ddi-drafferth ar yr awelon cynnes yn yr awyr uwchben y coed. Y mae sawl un o rhain yn cyfarfod am arddangosfa awyr anghredadwy sy’n rhy uchel i gael ei amharu gan y brain.

Y mae hefyd lwynogod ifanc o gwmpas a fydd yn dal i dyfu ym misoedd yr hydref, sy’n gwneud fy nghi yn hapus, ac sy’n eu dilyn, ei drwyn ar y llawr ar bob cyfle.

Y mae ystlumod hefyd yn ymwelwyr mewn rhai ardaloedd o’r goedwig ac yng ngofod ein llofft, gyda ystlumod lleiaf Cyffredin a Soprano a Barbastelod yn hedfan mewn dawns afreolaidd uwch ein pennau gyda’r nos ac i’w clywed yn y llofft wrth fynd i glwydo.

Rwyf yn meddwl am lawer o bethau tra’n cerdded, ac i ffwrdd o brysurdeb bywyd modern, rwyn gallu gwrando ar rythm fy nghalon, siffrwd y dail yn yr awel, a synau natur. Rwyf wedi dod i ddeall bod yna harddwch mewn sefyll yn llonydd a dysgais mai y mwyaf llonydd y gallaf fod, y mwyaf y gallaf deimlo presenoldeb Duw. Yma, wrth edrych allan dros y goedtir sy’n llawn coed ffawydd a deri yn ystod y newid tymhorau hyn y profaf deimlad dwfn o foddhâd a phrofiad o ‘le’.

Yn aml wrth i mi gerdded yn y goedwig, câf fy atgoffa o gerdd gan St.Machon, meudwy o’r 10fed ganrif.

‘O Fab y Duw byw, Brenin tragwyddol, dymunaf gwt cuddiedig yn yr anialwch a ddaw yn gartref i mi.

Nant fechan gul las wrth ei ochr a phwll clir…

Coedwig hyfryd gerllaw ar bob ochr, i ofalu am yr adar â phob math o gân ac i’w cuddio gyda’i gysgod.

Eglwys wedi’i gorchuddio’n hardd, cartref i Dduw o’r Nefoedd…’