Appwytiadau
Swyddog Newydd y Gymraeg a Dwyieithrwydd yn yr Esgobaeth

Nos Lun, 26 Gorffennaf, mewn gwasanaeth yn Eglwys Llanbadarn Fawr, trwyddedwyd y Parchg Lyn Lewis Dafis fel Swyddog y Gymraeg a Dwyieithrwydd yr Esgobaeth ac yn Offeiriad â Gofal yn AWL Bro Padarn. Y Canon Andrew Loat, Deon Bro Padarn, a arweiniodd y gwasanaeth. Roedd yr Archddiacon Eileen Davies yn gyfrifol am y trwyddedu gyda chymorth Cofrestrydd yr Esgobaeth, Arwel Davies. Dim ond cynulleidfa fechan a allai fod yn bresennol ond roedd pob eglwys yn yr AWL yn cael ei chynrychioli.
Bydd Lyn yn Weinidog Cyswllt rhan-amser yn yr AWL a bydd yn treulio gweddill ei amser yn gweithio yn ei swydd gyda’r esgobaeth.