20 mlynedd Plant Dewi

Mae Christina Jenkins, Rheolwr Dros Dro Plant Dewi, yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau dathlu penblwydd ac yn gwahodd darllenwyr i rannu eu hatgofion.
Bydd Mai 2022 yn nodi 20fed penblwydd Plant Dewi a rydym yn y broses o gynllunio nifer o ddigwyddiadau i’w cynnal drwy gydol y flwyddyn i ddathlu ein gwaith yn yr esgobaeth. Un o’r rhain fydd Dydd Hwyl yn Eglwys gadeiriol Tyddewi ar Fedi 3ydd pan fydd teuluoedd, staff ac ymddiriedolwyr yn dod at ei gilydd i fwynhau diwrnod o weithgareddau, bwyd a bendithion ar gyfer dyfodol y prosiect.
Fel rhan o’r arweiniad i fyny at y Dydd Hwyl, mae Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol Tyddewi, Justin Arnott, â diddordeb mewn dod o hyd i straeon ac atgofion oddi wrth y rhai a oedd yn rhan o’r mudiad o’r cychwyn cyntaf. Trwy cyfres o gyfweliadau wedi eu ffilmio, y nod bydd creu fideo a ellir ei ddangos yn yr eglwys gadeiriol a’i phostio ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Os oes gennych rai atgofion o Blant Dewi yr hoffech eu rhannu, cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddfa Plant Dewi 01267 221551 neu justinarnott@cinw.org.uk