Hafan "HOPE BEYOND": Cynllun grant newydd yn dilyn y cyfnod clo

"HOPE BEYOND": Cynllun grant newydd yn dilyn y cyfnod clo

All Churches Trust

Lansiwyd rhaglen o grantiau newydd gan yr Allchurches Trust – Hope Beyond - gyda'r nod o alluogi eglwysi ac elusennau Cristnogol i fynd i'r afael ag anghenion newydd o fewn eu cymunedau wrth i effaith hir-dymor Covid-19 ddod yn fwy amlwg.

Mae hyd at £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau fydd yn galluogi pobl, sefydliadau a chymunedau i ffynnu ar ôl y cyfnod clo.

Mae rhaglen grantiau "Hope Beyond" yn anelu at fynd i'r afael â 3 thema:

  • Prosiectau sy'n ymateb i achosion o unigrwydd sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, a ble mae cefnogaeth newydd neu well cefnogaeth wedi'i gynnig
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella gwytnwch cymunedau, a hybu iechyd a lles meddyliol ac emosiynol
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella sgiliau a gwytnwch technegol, a darparu cefnogaeth i'r rheiny sydd heb fynediad i'r Wê i gael y mynediad hwnnw trwy hyfforddiant a chefnogaeth bellach

Am fwy o wybodaeth ewch i www.allchurches.co.uk/hopebeyond