Hafan Amdanom ni Y 4edd Archddiaconiaeth

Y 4edd Archddiaconiaeth

Croeso i Dudalen y 4edd Archddiaconiaeth, yr Archddiaconiaeth dros Gymunedau Cristionogol Newydd ac Efengylu.

Maes gweithgaredd yr Archddiaconiaeth yw’r croestorfannau rhwng yr eglwys a diwylliant, at ei gilydd; ei nod yw creu a datblygu mannau cyfarfod rhwng yr eglwys a’r byd seciwlar. Cyflawnir ei gwaith drwy bedwar tîm strategol gwahanol:

  • Impact 242 - sefydlu cymunedau Cristionogol Newydd
  • Plant Dewi - estyn allan yn gymdeithasol
  • Caplaniaethau’r Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – campysau Llambed a Chaerfyrddin,
  • Efengyli -a chynorthwyo AddGLl i ddatblygu a hyfforddi Hyrwyddwyr Efengyleiddio a chenadaethau efengyleiddio.
Impact 242 logo

Mae Impact 242 yn bartneriaeth gyda Church Army sydd wedi sefydlu tair canolfan genhadaeth, hefyd wedi plannu hadau ar gyfer tair cymuned addoli a fydd yn blodeuo yn y dyfodol, gan ganolbwyntio’n gyfangwbl ar bobl nas cyffyrddwyd gan yr eglwys, â’r nod o gyrraedd trydedd a phedwaredd genhedlaeth y cyfryw rai yn ein cymunedau; wedyn, bedydd oedolion fydd y nod a chreu disgyblion yn y cyd-destun lleol, gan geisio dysgu sut i gyrraedd y rheiny na lwyddwyd i’w cyrraedd cynt, a sefydlu eglwys yn eu plith. Gobeithiwn weld pob un o’r eglwysi hyn yn dod i’w llawn dwf yn y pen draw, o fewn i’w harchddiaconiaeth ddaearyddol. Mae enw’r fenter yn disgrifio ein hunaniaeth, ein gweledigaeth a’n nod, a hynny mewn modd cryno ddigon; dewiswyd y gair Impact ar sail y gred y dylai eglwys ac unrhyw gymuned Gristionogol effeithio’n drwm ar ei chymuned a’i diwylliant cynhenid, o ran trawsnewid agweddau a bwriadau. O ddadansoddi’r gair cyfan, ceir fod yr ail sillaf yn cyfeirio at lyfr yr Actau, tra bod 242 yn nodi pennod 2, adnod 42

“Yr oeddent yn dyfalbarhau, yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau”,

yn cynnwys yr awydd pur i ganolbwyntio ar Grist, i fod yn gadarn o ran ffydd a diwyro fel disgyblion.

DewiSmall.gif

Diau eich bod, bawb ohonoch, yn ymwybodol o waith trwyadl Plant Dewi dros gyfnod maith, a thestun balchder a chyffro yw bwriad y corff hwnnw i gydweithio i’r eithaf gyda’r 4edd Archddiaconiaeth; felly closiwch atynt a’u cefnogi, gan mai hwy fu cyfrwng cenhadu yr esgobaeth ers blynyddoedd, mewn ardaloedd na fedrodd trwch ein heglwysi, ar y cyfan, eu cyrraedd.

UWTSD Logo

Bellach, sefydlwyd caplaniaeth Campysau’r Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, gan gwmpasu’r ddau gampws, Llambed a Chaerfyrddin, a bwriedir penodi dau/dwy gaplan/brentis ar gyfer campws Llambed, gyda chefnogaeth yr Esgobaeth, y Brifysgol a Sefydliad Sant Padarn.

Un o brif amcanion yr archddiaconiaeth yw cefnogi bywydau efengylyddol ein holl eglwysi, ac, i’r perwyl hwnnw, bydd pob efengylydd yn neilltuo 20% o’u hamser er budd yr esgobaeth ehangach, gan ddatblygu hyrwyddwyr efengylu, a chynorthwyo â gwaith arwain cenadaethau lleol AddGLl yn flynyddol.