Neges y Pasg gan Esgob Joanna, Ebrill 2017

Star_Coss_Tomb“Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.” Marc 16:8

Dyma rai o’r geiriau pwysicaf yn yr efengylau.

Maent yn arbed hanes yr achos yn erbyn Iesu, ei groeshoeliad a’i atgyfodiad rhag cael ei ddofi. Maent yn arbed ffeithiau canolog y gobaith Cristnogol rhag bod yn straeon fel The Lord of the Rings neu Harry Potter pan, yn erbyn pob disgwyl gyda’r drwg yn gwneud ei waethaf, y mae daioni’n llwyddo yn y diwedd. Nid diweddglo hapus i hanes bywyd Iesu yw’r atgyfodiad.

Mae’n rhywbeth syfrdanol, anhygoel a chwbl frawychus. Roedd y disgyblion, dilynwyr Iesu, yn fenywod yn ogystal â dynion, yn bobl gyffredin. Nid cymeriadau mewn stori neu ddrama ydynt. Maent yn bobl go iawn, fel ninnau, gyda’u gobeithion a’u hofnau personol a gwleidyddol eu hunain. Roeddent wrthi’n byw eu bywydau pan wnaeth Ioan Fedyddiwr, ac yna Iesu ei hun, ddal eu sylw.

Roedd Ioan ac yna Iesu yn bobl na ellid mo’u hanwybyddu, pobl yn cyhoeddi teyrnas Dduw. Rabbi oedd Iesu ond un a fedrai gysylltu â phob math o bobl, hyd yn oed gyda’r rhai a oedd fel arfer yn cael eu hanwybyddu gan athrawon crefyddol y dydd.

Byddai pobl yn tyrru at Iesu i wrando arno’n dysgu, yn y gobaith o weld gwyrthiau. Daeth rhai yn ddisgyblion iddo a byw yn ei gwmni o ddydd i ddydd fel yr oedd yn arferol i gylch mewnol dilynwyr Rabbi ei wneud.

Roedd gan Iesu neges anarferol, ac roedd yntau wedi’i fendithio gan Dduw mewn ffyrdd nad oedd athrawon eraill. Roedd yn Rabbi anarferol ond serch hynny, ac er mor drist ydoedd, nid ef oedd y cyntaf i fynd i drafferthion gyda’r awdurdodau a gorffen ei fywyd ar groes Rufeinig. “Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid.” Luc 24:21.

Nid diweddglo hapus yw atgyfodiad Iesu i hanes a oedd wedi gorffen mewn modd cynddrwg: yn hytrach mae’n ddechrau rhywbeth newydd syfrdanol a brawychus, rhywbeth sydd yn medru newid bywydau.

I ddweud heb flewyn ar dafod: hyd at fore’r Pasg, byddai pobl oedd wedi marw yn aros yn farw. Roedd Iesu wedi atgyfodi Lasarus ond dim ond I Lasarus farw yn y pendraw, fel y byddwn ni i gyd. Roedd marwolaeth Iesu’n ddychrynllyd ac ofnadwy. Roedd y rhai oedd yn ei garu’n galaru; roedd y rhai oedd wedi rhoi eu gobaith ynddo wedi’u siomi. Ni ddylai fod wedi digwydd ac eto roedd yn beth cwbl arferol.

Ond mae’r atgyfodiad yn gwbl groes i’r arferol ac ni fyddai’r rhai a ddaeth wyneb yn wyneb â’r bedd gwag a neges yr angel, y rhai a gyfarfu â’r Iesu atgyfodedig, a siarad a bwyta gydag ef, fyth yr un fath eto. Nid oedd modd iddynt ddychwelyd at yr arferol. Nid oedd modd iddynt mwyach fod yn gymeriadau yn nrama Iesu oherwydd eu bod wedi dod wyneb yn wyneb â realiti pur y Duw byw.

Wrth i ni ddathlu’r Pasg efallai bod realiti’r atgyfodiad yn codi ofn arnom, ond os Duw a’i myn, bydded i obaith yn y Duw byw a gyfododd ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu o Nasareth – Rabbi o gig a gwaed – o farwolaeth i fywyd gael ei eni o’r newydd yn ein calonnau, ein meddyliau a’n bywydau.

+Joanna Tyddewi